top of page
Y Ganolfan

Canolfan Bontewydd yw neuadd y pentref. Mae yn adeiladau'r hen ysgol gynradd, drws nesaf i'r ysgol bresennol. Mae'r Ganolfan ar gael i'w llogi gan gymdeithasau, grŵpiau a'r cyhoedd gyda'r hwyr ac ar y penwythnosau ar gyfer gweithgareddau lles a hamdden, gwersi, cyfarfodydd a phartïon plant.

Y Ganolfan yw cartref y Cylch Meithirn, Clwb ar ôl Ysgol, a Chlwb Gwyliau i blant. Cyn Covid roedd gweithgaredd cymdeithasol yn y Ganolfan bron bob nos ond ar hyn o bryd dim ond ymarfer côr a gwersi karate sy gyda'r hwyr pob wythnos. Os hoffech ddechrau gweithgaredd newydd yma, er engraifft, yoga/Pilates, dawnsio neu wersi gitâr, cysylltwch â ni.

​

Os am logi'r Ganolfan, cysylltwch â'r Gofalwr, Garem Roberts ar 07767 712278
 

Prisau llogi:
Defnyddwyr rheolaidd hyd at 3 awr - £20, a £25 am gyfnod o 3 i 10 awr (ystyrid "rheolaid" i olygu o leiaf unwaith y pythefnos am fwy na 6 mis y flwyddyn).
Defnyddwyr achlysurol hyd at 3 awr - £30, â £10 ychwanegol i bartïon (heblaw eu bod yn mynd â'u ysbwriel gyda nhw), a £60 am gyfnod o 3 i 10 awr.

Mae'r Ganolfan ar lês i Gyngor Cymuned Bontnewydd gan Gyngor Sir Gwynedd. Mae'r cyngor cymuned wedi awdurdodi Pwyllgor y Ganolfan i'w chynnal a'i threfnu. Y cadeirydd yw'r cynghorydd sir Menna Jones; y trysorydd yw'r cynghorydd cymuned Math Williams; ac mae gweddill aelodau'r pwyllgor yn cynrychioli defnyddwyr rheolaidd y Ganolfan, Pennaeth Ysgol Bontnewydd, a Hwyl y Bont. Ariannir cost chynnal a chadw'r Ganolfan gan dâl llogi gan y defnyddwyr. Cafodd gwariant cyfalaf sylweddol ar welliannau rhwng 2017 a 2020 eu hariannu gan Gyngor Cymuned Bontnewydd a Hwyl y Bont (trwy nawdd Tesco). Mae hyn wedi talu am larwm tân, gwresogwyr, cegin a thoiledau newydd. 

bottom of page